Datganiad Cenhadaeth
Croeso cynnes Cymraeg i ysgol flaengar a chynaliadwy wedi’i gwreiddio yn y gymuned.
Mae ward Tre-biwt yn gartref i rai o sefydliadau pwysicaf Cymru a’r iaith Gymraeg, gan gynnwys y Senedd, Canolfan y Mileniwm ac Urdd Gobaith Cymru. Mae’r iaith i’w chlywed yn feunyddiol yma, ond Ysgol Gynradd Gymraeg Hamadryad fydd yr ysgol cyfrwng Cymraeg gyntaf i’w lleoli yn yr ardal. Mae wardiau Tre-biwt, Grangetown a’r ardaloedd cyfagos yn nodedig am eu cymeriad amlethnig ac amlieithog ac un o amcanion yr ysgol newydd fydd adlewyrchu amrywiaeth y gwahanol gymunedau hyn.
Mae enw’r ysgol wedi ei wreiddio’n ddwfn yn hanes yr ardal. Llong oedd yr Hamadryad wreiddiol a rhwng 1866 a 1905 bu wrth angor nid nepell o safle’r ysgol, yn gwasanaethu fel ysbyty ar gyfer morwyr o Gymru a phedwar ban byd. Yn 1905 agorwyd Ysbyty Hamadryad ar y tir sych gerllaw ac erbyn heddiw Parc Hamadryad yw enw’r parc cyhoeddus ar lan afon Taf a fydd yn darparu caeau chwarae’r ysgol. Daw’r enw Hamadryad o chwedloniaeth Roeg—math o nymff oedd yr hamadryad y credid ei bod yn gwarchod coed.
Mae hanes enw’r ysgol felly yn cyfleu rhai o’i gwerthoedd mwyaf sylfaenol: pwysigrwydd gofalu am bobl a’r amgylchedd fel ei gilydd a pharch at wahanol ddiwylliannau a’u hetifeddiaeth. Bydd yr iaith Gymraeg yn cydgysylltu’r cyfan. Nod yr ysgol yw creu cymuned ddysgu hapus, uchelgeisiol a chynhwysol a fydd yn rhan greiddiol o’r ardal o’i chwmpas.