Gwerthoedd yr Ysgol
NODAU AC AMCANION YR YSGOL
- Creu awyrgylch groesawgar a chadarn lle mae’r plant, y staff a’r rhieni/ gwarcheidwaid yn teimlo’n hyderus ac yn frwdfrydig.
- Sicrhau bod pob plentyn yn teimlo ei fod yn cael ei gynnwys ym mywyd yr ysgol ac yn cael ei werthfawrogi a’i barchu beth bynnag bo ei sefyllfa ran gallu, rhyw, anabledd, ethnigrwydd, crefydd, cefndir teuluol, diwylliant ac iaith y cartref.
- Annog pob plentyn i wneud ei ‘orau glas’, gan sicrhau bod yr addysgu yn heriol er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn cyrraedd ei lawn botensial.
- Magu sgiliau, dealltwriaeth a hunanhyder pob plentyn.
- Rhoi amser i’r plant drafod eu dysgu â phlant eraill ac oedolion.
- Darparu cyfleoedd dysgu sy’n meithrin creadigrwydd, brwdfrydedd a chwilfrydedd.
- Darparu profiadau dysgu sy’n meithrin hunanfalchder ac yn helpu pob plentyn i ddatblygu cydberthynasau cadarnhaol ag eraill o fewn yr ysgol a’r gymuned ehangach.
- Helpu pob plentyn i ddatblygu i fod yn ddinasyddion dibynadwy, annibynnol a chadarnhaol.
Ein nod yw sicrhau bod pob plentyn yn unigolyn hyderus wrth adael yr ysgol; yn sicr ohono’i hunan ac yn dangos parch a chonsyrn at eraill; ac â’r gallu i greu a chynnal perthynas ag oedolion a phlant o bob cefndir.