Skip to content ↓

Ffrindiau Hamadryad

Mae Ffrindiau Ysgol Hamadryad Friends yn Gymdeithas Rieni ac Athrawon ac yn elusen gofrestredig.

Gyda’n gilydd rydym yn codi arian i hybu addysg a phrofiadau pob plentyn sy’n mynychu Ysgol Hamadryad. Mae’r arian rydym yn ei gasglu yn cael ei wario ar ystod eang o eitemau a phrofiadau. Mae rhai o rhain yn cynnwys piano newydd, gweithgareddau maes chwaeae a gwisg chwaraeon.

Rydym yn casglu arian drwy gynnal digwyddiadau cyson ar gyfer holl gymuned yr ysgol. Yn ogystal a’n ffeiriau gaeaf a haf, rydym hefyd wedi cynnal disgos, noson gwis, gwerthiant llyfrau a hyd yn oed ras amryliw!

Mae hyn oll yn bosib oherwydd fod grŵp o athrawon a rhieni yn gwirfoddoli eu hamser, eu hegni a’u creadigrwydd. Os hoffech ymuno â Ffrindiau Ysgol Hamadryad, neu i helpu o dro i dro, ebostiwch ffrindiauhamadryadfriends@gmail.com neu dewch i’n cyfarfod nesa.

Yn ystod y flwyddyn ysgol hon, rydym yn gofyn i bob rhiant ymrwymo awr o’u hamser i Ffrindiau Ysgol Hamadryad. Gyda dros 350 o blant, dychmygwch be allwn ni gyflawni gyda’r holl help!

Pwyllgor 

Cadeirydd: Sarah Gilbert 

Is-Gadeirydd: Elin Rowlands

Ysgrifenyddes: Mari Williams

Trysorydd:  Karen Tierny

Cynrychiolwyr Dosbarth

Dosbarth Castanwydden Bl5/6 - Amy Johansson & Angharad Rees

Dosbarth Pinwydden Bl4/5 - Eleri James

Dosbarth Llwyfen Bl4 –   Claire Llewellyn

Dosbarth Ysgawen Bl3 – Ann Hostler

Dosbarth Derwen Bl3 - Helen Crane

Dosbarth Helygen Bl2 - Gwenno Uhi

Dosbarth Onnen Bl2– Sarah Gilbert

Dosbarth Gwern Bl1 - Liz Jones

Dosbarth Ceiriosen Bl1 – Sian Madgwick-Iles

Dosbarth Collen – Emily Lewis

Dosbarth Bedwen – Gwen McDonal + Jen Dunne

Dosbarth Celyn Bore – Geraint Criddle

Dosbarth Celyn P'nawn – Catrin Roberts-Condon

If you would like to become a Cynrychiolwyr Dosbarth please contact a member of the committee.

Gwisg Ysgol 

I gael gwisg ysgol ail-law mewn cyflwr da, e-bostiwch gwisgysgolL5@hwbcymru.net

Mae Lexy Woolford yn cynnal sels gwisg ysgol rheolaidd gyda system "talu'r hyn y gallwch chi" Anfonir lefelau stoc ar ateb awtomatig.

Croesewir rhoddion yn y bin olwynion porffor ger y sied beics.