Trefniadau Presenoldeb
PRYDLONDEB A PHRESENOLDEB
Byddwn yn monitro prydlondeb a phresenoldeb yn ofalus. Rhaid i bawb sy’n cyrraedd yn hwyr arwyddo’r system InVentry (y tu allan i’r swyddfa) gan nodi’r rheswm.
Cofiwch fod mynychu'r ysgol yn rheolaidd yn dyngedfennol os yw’r plant am elwa ar bob cyfle y mae'r ysgol yn ei gynnig.
Mae caniatâd i blentyn fod yn absennol am y rhesymau canlynol:
* salwch, triniaeth feddygol neu ddeintyddol
* gwyliau crefyddol
* argyfwng teuluol
Os na fydd disgybl yn gallu mynychu’r ysgol am resymau dilys, dylai’r rhiant/rhieni/gwarcheidwa(i)d ffonio’r ysgol ar 029 2047 1173 cyn 8:45yb neu ebostio'r ysgol ysgolhamadryad@caerdydd.gov.uk.
Rhaid pwysleisio mai dim ond am resymau dilys megis salwch y gallwn gofnodi marc absenoldeb gyda chaniatâd. Bydd unrhyw reswm arall yn derbyn marc absenoldeb heb ganiatâd. Os bydd plentyn yn derbyn 10 marc absenoldeb heb ganiatâd (sy’n cyfateb i 5 diwrnod ysgol), mae’n bosibl y bydd y rhiant/rhieni/ gwarcheidwa(i)d yn derbyn Hysbysiad Cosb Benodedig.
GWYLIAU
Ni roddir caniatâd i ddisgyblion fod yn absennol o’r ysgol i fynd ar wyliau.
Bydd unrhyw gyfnod o absenoldeb, ar wahân i salwch, gwyliau crefyddol neu argyfwng teuluol, yn cael ei gyfrif fel absenoldeb heb ganiatâd.