Ffrindiau Hamadryad
Mae Ffrindiau Ysgol Hamadryad Friends yn Gymdeithas Rieni ac Athrawon ac yn elusen gofrestredig.
Gyda’n gilydd rydym yn codi arian i hybu addysg a phrofiadau pob plentyn sy’n mynychu Ysgol Hamadryad. Mae’r arian rydym yn ei gasglu yn cael ei wario ar ystod eang o eitemau a phrofiadau. Mae rhai o rhain yn cynnwys piano newydd, gweithgareddau maes chwaeae a gwisg chwaraeon.
Rydym yn casglu arian drwy gynnal digwyddiadau cyson ar gyfer holl gymuned yr ysgol. Yn ogystal a’n ffeiriau gaeaf a haf, rydym hefyd wedi cynnal disgos, noson gwis, gwerthiant llyfrau a hyd yn oed ras amryliw!
Mae hyn oll yn bosib oherwydd fod grŵp o athrawon a rhieni yn gwirfoddoli eu hamser, eu hegni a’u creadigrwydd. Os hoffech ymuno â Ffrindiau Ysgol Hamadryad, neu i helpu o dro i dro, ebostiwch ffrindiauhamadryadfriends@gmail.com neu dewch i’n cyfarfod nesa.
Yn ystod y flwyddyn ysgol hon, rydym yn gofyn i bob rhiant ymrwymo awr o’u hamser i Ffrindiau Ysgol Hamadryad. Gyda dros 350 o blant, dychmygwch be allwn ni gyflawni gyda’r holl help!
Pwyllgor
Cadeiryddion: Lowri Farr & Hanna Lewis
Is-gadeirydd: Catrin Roberts-Condon
Ysgrifenyddes: Mari Williams
Trysorydd: Elin Rowlands
Cynrychiolwyr Dosbarth
Dosbarth Castanwydden Bl6 – Helen Crane
Dosbarth Draenen Wen Bl6 - Maria Pournara
Dosbarth Pinwydden Bl5 - Gwenno Uhi
Dosbarth Sycarmorwydden Bl5 – Sarah Gilbert / Liz Jones
Dosbarth Ffawydden Bl4 - Abbey Moore
Dosbarth Llwyfen Bl3/4 – Emily Lewis
Dosbarth Ysgawen Bl3 – Gwen McDonald + Jen Dunne
Dosbarth Helygen Bl2 - Geraint Criddle
Dosbarth Onnen Bl2– Catrin Roberts-Condon
Dosbarth Gwern Bl1 - Steffan Watkins
Dosbarth Ceiriosen Bl1 – Kellie Reynolds
Dosbarth Collen – Kriza Bemenuto
Dosbarth Bedwen – Catherin Jones
Dosbarth Celyn Bore – Rachel Llwyd
Dosbarth Celyn P'nawn – Abi Williams
Gwisg Ysgol
Mae’r wisg ysgol ail-law ar gael drwy gydol y flwyddyn yn y Neuadd Fach ger y dderbynfa. System "talu’r hyn gallwch chi" sydd ar waith.
Croesewir rhoddion yn y bin porffor ger y sied feiciau.
Os hoffech wirfoddoli eich amser i helpu gyda rheoli’r wisg ysgol, cysylltwch â ni.
