Croeso
Gair gan y Pennaeth
Ysgol Hamadryad: Angor cadarn cyn hwylio’r don
Mae'n bleser ac yn fraint i mi gael cyflwyno'r wefan hon i chi gan obeithio y cewch flas o'r hyn a gynigir yn Ysgol Hamadryad. Ysgol Gymraeg yw Ysgol Hamadryad sydd yn gwasanaethu'r ardaloedd mwyaf amlieithog gyda chefndiroedd mwyafrif byd-eang yng Nghymru. Rydym yn ysgol a chymuned hapus sydd yn cynnig croeso cynnes i bob un unigolyn. Cynygiwn awyrgylch diogel ac ysbrydoledig gan gynnig safonau rhagorol o ran dysgu ac addysgu.
Ein bwriad yw rhoi profiadau cyfoethog i'n dysgwyr ar ddechrau eu taith addysgiadol er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn hyderus; yn dangos parch a charedigrwydd at eraill; ac â’r gallu i greu a chynnal perthnasoedd iach.