Hanes yr Ysgol
HANES YR YSGOL
Ym mis Medi 2016, agorwyd drysau Ysgol Hamadryad gydag un dosbarth derbyn o un deg saith o blant mewn lleoliad dros dro y drws nesaf i Ysgol Gynradd Ninian Park. Rydym yn falch iawn o gysylltiadau Cymraeg y safle dros dro. Yn adeilad Ysgol Gynradd Ninian Park yr agorwyd ysgol Gymraeg gyntaf Caerdydd yn 1949, ac ar y safle hwn hefyd yr oedd Ysgol Gymraeg Tan-yr-Eos rhwng 2006 a 2013.
Yn sgil cau Tan-yr-Eos fe ddechreuwyd ymgyrch gan bobl leol er mwyn sicrhau bod y galw am addysg Gymraeg yn ardaloedd Tre-biwt a Grangetown yn cael ei ddiwallu. Bu’r ymgyrch yn llwyddiant, a bydd yr adeilad newydd yn cael ei ariannu gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru (Cynllun Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain). Yn mis Ionawr 2019, agorwyd drysau Ysgol Hamadryad am y tro cyntaf ar ein safle barhaol, am bennod newydd a chyffrous! Mae’n destun balchder a llawenydd mawr fod yr ysgol wedi ei sefydlu a bod yr athrawon a’r llywodraethwyr yn gwireddu’r freuddwyd o ysgol flaengar a chroesawgar ar gyfer holl blant yr ardal.